P-04-439
: Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru
ymhellach
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym o'r farn bod coed hynafol a choed treftadaeth
Cymru yn rhan hanfodol ac unigryw o amgylchedd a threftadaeth y
genedl.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i'w diogelu ymhellach, er enghraifft,
drwy:
-
roi dyletswydd ar yr Un Corff Amgylcheddol newydd i
hyrwyddo cadwraeth coed o'r fath drwy roi cyngor a chymorth i'w
perchenogion, gan gynnwys cymorth grant lle bo'n
angenrheidiol;
-
diwygio'r ddeddfwriaeth Gorchymyn Cadw Coed bresennol
i'w gwneud yn addas i'r diben wrth ddiogelu coed hynafol a
threftadaeth, a hynny yn unol â chynigion Coed Cadw (the
Woodland Trust);
-
cynnwys cronfa ddata o'r coed a gofnodwyd ac a nodwyd
yn ddilys gan y Prosiect Helfa Coed Hynafol fel casgliad o ddata
i'w gadw gan unrhyw olynydd i Gynllun Gofodol Cymru, gan gydnabod y
rhain fel 'Coed o Ddiddordeb Arbennig' a rhoi'r wybodaeth hon i
awdurdodau cynllunio lleol fel y gellir ei chynnwys yn eu systemau
gwybodaeth ddaearyddol, er
gwybodaeth.
Prif
ddeisebydd: Coed
Cadw Cymru
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 4
Rhagfyr 2012
Nifer y llofnodion: 5,320